Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

2CB & 2-CT-7



Drugs A - Z

2CB & 2-CT-7

2cb

Cyffur

2CB & 2-CT-7

Enwau cyffredin

2CB, Bromo, Nexus, CB,2-CT-7, T-7, 7-up, Tripstacy, 2CT7

Disgrifiad

Maent yn cael eu gwerth mewn powdr gwyn neu bilsen fach 5mg. Mae llawer o bobl yn cymryd mwy na un bilsen ar un tro, gall yr effeithiau yma bara hyd at 4-8 awr. Maent yn aml yn cael eu cymryd gydag ecstasi fel ‘party pack’

Dull o ddefnyddio

Amlyncu, ffroeni neu ei ysmygu.

Effeithiau

Mae ychydig bach o 2CB yn debyg i effeithiau ecstasi ac yn rhoi profiad egnïol i’r defnyddiwr, y mwyaf y bydd y defnyddiwr yn ei gymryd, y mwyaf fydd yr effaith. Gall y defnyddiwr deimlo ymwybyddiaeth gref mewn lliwiau, synau ag arogl. Bydd y corff yn teimlo yn hynod o synhwyrus, ac i lawer o ddefnyddwyr byddant yn teimlo yn 'randi'. Bydd yr effeithiau yn para oddeutu 2-4 awr (dôs arferol).

Effeithiau eraill

Gall y cyffuriau yma (2CB & 2-CT-7) achosi rhithweledigaethau tebyg i LSD, nid yw’n gyffur i bobl sydd yn hoffi bod mewn rheolaeth. Mae profiadau gyda chyffuriau o’r fath megis LSD yn awgrymu gall y cyffuriau yma adael y defnyddiwr yn flin, blinedig, colli cyswllt ar amgylchedd, pryderus a digalon. Hefyd gall cyffuriau o’r math yma achosi pwlïau o banig neu salwch seicolegol eraill.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Gan fod y cyffuriau yma (2CB & 2-CT-7) yn raddol newydd, nid oes digon o ddata i benderfynu goddefgarwch a dibyniaeth ar y cyffuriau.

Cyfreithlondeb

Mae 2CB a 2CT-7 yn gyffuriau dosbarth A. Anghyfreithlon i feddiannu, gwerthu a rhoi. Gall ei feddiannu olygu saith mlynedd yn y carchar neu hyd yn oed bywyd mewn carchar am ei werthu a ffein annherfynol.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru