Temasipam |
Cyffur |
Temasipam |
Enwau cyffredin |
Tems, Yemazzies, Eggs, Green Eggs, Jellies, Norries, Rugby balls, benzodiazephines |
Disgrifiad |
Capsiwl wedi ei lenwi gyda gel. |
Dull o ddefnyddio |
Amlyncu |
Effeithiau |
Bydd dôs gyffredin o temasipam yn gwneud i’r defnyddiwr deimlo ei fod wedi ymlacio, llai pryderus, ag yn gysglyd. Bydd dôs uwch yn gwneud i’r defnyddiwr fod yn siaradus, cynhyrfus a hyd yn oed ymosodgar. |
Effeithiau eraill |
Wrth i effeithiau’r cyffur gilio gall achosi i’r defnyddiwr fod yn ofnus, methu cysgu, cael pwl o banig, teimlo’n chwdlyd, colli awydd bwyd a hyd yn oed gweld rhithweledigaethau |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Os yw temasipam yn cael ei ddefnyddio yn aml yna gall dibyniaeth i’r cyffur ddatblygu yn sydyn iawn. |
Cyfreithlondeb |
Mae “temasipam” yn cael ei reoli gan y gyfraith “Misuse of Drugs Act, 1971”, cofrestr 1 yn nosbarth cyffuriau A. Mae gan unrhyw berson hawl i fod a chyffur cofrestr 1 yn eu meddiant ond iddo fod yn ei ffurf meddygol gwreiddiol (heb ei baratoi ar gyfer chwistrellu). Mae dedfryd o 5 mlynedd yng ngharchar i berson sydd yn cyflenwi a chynhyrchu'r cyffur i eraill heb awdurdod. |

