Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Alcohol



Drugs A - Z

Alcohol

Y Dyddiadur Diod

Cyffur

Alcohol

Enwau cyffredin

Beer and lager, cider, alco-pops, alco-milks, spirits (including meths/white spirit), wine, gwin, llaeth mwnci, pop, cwrw, chwerw, seidar, gwirodydd.

Disgrifiad

Hylif

Dull o ddefnyddio

Amlyncu (trwy'r ceg)

Effeithiau

Mae alcohol yn gyffur "iselydd" (depressant) nid adfywiol, hynny yw mae’n arafu ‘r corff i lawr yn hytrach nai gyflymu, er enghraifft ymateb yr ymennydd ar corff (mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn cyflymu'r corff). Effeithiau cyffredin ar ôl ei gymryd yw colli swildod, ymlacio, bod yn siaradus a theimlad hyderus yn eich hun.

Effeithiau eraill

Y mwyaf yw’r dôs, y mwyaf yw’r effaith. Gall yr unigolyn golli rheolaeth ar lefariad, golwg, coesau, ymwybyddiaeth a hyd yn oed bywyd. Mae lleihad yn amser ymateb ac amhariad ar ddyfarniad yn gwneud gyrru moduron yn hynod beryglus yn ystod yr effaith. Gall gwirod methyl (methylated spirits) achosi niwed parhaol i’r llygaid ac arwain at ddallineb. Mae y rhan fwyaf o bobl yn chwydu a dihydradu ar ôl yfed gormod. Gall yfed yn y tymor hir arwain at niwed i’r iau, galon, ymenydd, achosi cancer a llawer o ddifrod arall i’r corff gan gynnwys organau rhywiol. Mae cael rhyw tra yn feddw yn risg, yn aml iawn gall yr unigolion anghofio defnyddio dulliau atal genhedlu e.e condom, gall hyn arwain at heintiau yn cael eu trosglwyddo.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Gall dibyniaeth corfforol a meddyliol ddatblygu gyda yfed alcohol. Gall goddefgarwch (tolerance) y corff gynyddu gydag yfed cyson, felly bydd angen yfed mwy o alcohol er mwyn cael yr un effeithiau.

Cyfreithlondeb

Mae’n gyfreithlon yn y wlad yma i brynu ac yfed alcohol dros 18 mlwydd oed. Yn y cartref mae gan berson dros 5 mlwydd oed hawl i yfed alcohol (o fewn rheswm!). Mae’n gyfreithlon i berson rhwng 16 a 18 mlwydd oed i yfed cwrw (dim gwirodydd) mewn tafarn os yr ydynt yn cael pryd o fwyd. Mae’n gyfreithlon i wneud cwrw a gwin eich hun ond dim gwirodydd. Mae yna gyfyngiad o faint o alcohol y cewch yfed cyn gyrru modur (2 uned yw’r gyfraith ond mae’n dibynnu ar yr unigolyn. Gall dau fod yn ormod i rai).


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru