Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Amffetaminiau



Drugs A - Z

Amffetaminiau

Pil

Cyffur

Amffetaminiau

Enwau cyffredin

Speed, Uppers, Whizz, Billy, Sulphate, Grudge, Bennies, Greenies, Cartwheels, Meth, Crystal, Dexies, Hearts, Oranges, Blues, Whites Base, Yaba.

Disgrifiad

Mae amffetamin fel arfer yn dod mewn ffurf powdr gwyn, ond gall fod yn binc golau neu'n lwyd.

Dull o ddefnyddio

Mae'r powdr rhan amlaf yn cael ei ffroeni ond gall gael ei ysmygu neu ei chwistrellu.

Effeithiau

Mae amffetamin yn gyffur “adfywiol” hynny yw mae’n cyflymu'r corff. Mae’n cynhyrchu teimladau hyderus, o lawn egni a rhyddhau blinder hefyd ni fydd angen llawer o gwsg na bwyd ar y defnyddiwr. Gyda dôs uwch bydd teimlad o hapusrwydd a sirioldeb. Gall yr effaith bara am rhai oriau ac yn aml bydd y defnyddiwr yn cymryd dôs arall rhag teimlo yn isel wrth i effaith y cyffur gilio.

Effeithiau eraill

Effeithiau eraill yw pryder, teimlo yn annifyr, bod yn aflonydd a theimlad o baranoia. Gall ei ddefnyddio yn aml arwain at symptomau yn cynnwys deiliriwm, pwl o banig, seicosis a rhithweledigaethau (hallucinations). Os yw yn cael ei ddefnyddio am gyfnod hir iawn gall arwain at iselder ysbryd, wedi blino yn barhaol, rhithdybiaethau (delusions), paranoia a rhithweledigaethau. Mae gallu'r corff i ymladd afiechydon yn dirywio ac yn aml yn arwain at haint. Mae hunanladdiad wedi digwydd cyn heddiw gyda alldyniad (withdrawal) sydyn o’r cyffur.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Gall dibyniaeth corfforol a meddyliol ddatblygu wrth gymryd amffetamin. Gall goddefgarwch (tolerance) y corff gynyddu gyda'i gymryd yn gyson, felly bydd angen cymryd mwy o'r cyffur er mwyn cael yr un effeithiau.

Cyfreithlondeb

O dan y ddeddf “Medicines Act” mae amffetamin yn gyffur presgripsiwn yn unig ac yn dod o dan ddosbarth B yn yr Act Camddefnyddio Cyffuriau. Os yw wedi cael ei baratoi ar gyfer cael ei chwistrellu yna mae’n dod o dan ddosbarth A. Mae’n erbyn y gyfraith ei feddu (heb bresgripsiwn), cynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio eich adeilad i wneud unrhyw beth anghhyfreithlon gyda’r cyffur.

 


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru