Steroid Anabolic |
Cyffur |
Steroid anabolic |
Enwau cyffredin |
Roids, Durabolin, Stanozolol, Dianabol, Finajet, Testosterone, Nandrolon |
Disgrifiad |
Tabledi neu ampwl chwistrellu |
Dull o ddefnyddio |
Almyncu neu chwistrellu |
Effeithiau |
Yr effeithiau y mae pobl yn ddisgwyl wrth gymryd steroid yw cynyddu mas y cyhyrau, unai ar gyfer gwella edrychiad neu ar gyfer gwella perfformiad chwaraeon drwy gael yr un effaith ond gwneud llai o ymarfer corff. |
Effeithiau eraill |
Gall defnyddio’r cyffur yma yn aml gan ferched arwain at ddatblygiad anwrthdroadwy (irreversible) o nodweddion rhywiol dynion megis mwy o flew ar y corff, dirywiad ym maint y bronnau, y llais yn dyfnu, cynyddiad ym maint y “clitoris” a hefyd effeithiau ar gylchred y misglwyf. Mewn dynion gall y cyffur dyfu bronnau, lleihau maint y ceilliau, lleihau'r nifer o sberm a hefyd colli libido. Mae adroddiadau o ymddygiad ymosodgar yn gyffredin gyda’r cyffur hwn, mae’n derm sydd yn cael ei alw yn 'roid rage' sydd yn act o drais eithafol gan berson tawel a mwyn o ganlyniad i ddefnyddio steroid. Gall effeithiau yn y tymor hir achosi niwed i’r iau gan gynwys cancer a math prin o hepatitis. Gall achosi ymdoddi (fusion) cynar yn derfyn yr esgyrn mewn pobl ifanc gan arwain at esgyrn ddim yn tyfu i’w llawn maint. Mae adroddiadau o achosion problemau seiciatryddol yn cynnwys paranoia, anghofio ac iselder ysbryd o ganlyniad i’r cyffur. Gall gynyddu'r risg o drawiad ar y galon a strôc. Gall chwistrellu steroid gynyddu'r risg o HIV os yw nodwyddau yn cael eu rhannu. |
Dibyniaeth a goddefgarwch |
Mae’r ddibyniaeth yn un seicolegol gyda’r defnyddiwr wedi ei ddarbwyllo fod perfformiad gwell i’w gael o ddefnyddio’r cyffur. Mae’r buddiant o gynyddu maint y cyhyrau a gwella perfformiad chwaraeon yn ddadleuol a gall fod ddim ond yn fater o effaith plasebo!!. |
Cyfreithlondeb |
O dan y ddeddf “Medicines Act” mae Steroid Anabolic yn gyffur presgripsiwn yn unig ac yn dod o dan ddosbarth C yn yr Act Camddefnyddio Cyffuriau, mae hyn yn golygu bod eu meddu yn gyfreithlon ond dim eu cyflenwi. Gall athletwyr sydd wedi cael eu dal yn cymryd y cyffur eu hatal rhag cymryd rhan mewn unrhyw chwareuon eto. |

