Barbitwradau |
|
Cyffur |
Barbitiwradau |
Enwau cyffredin |
Barbs, Downers, Blues, Reds, Sekkies, Blue Angels, Blue Devils, Blue Bullets, Purple Hearts, Goofballs, Red Devils |
Disgrifiad |
Rhan amlaf fel tabled ond gall fod yn ampwl, toddydd, capsiwl neu syryp. |
Dull o ddefnyddio |
Amlyncu neu chwistrellu |
Effeithiau |
Mae ychydig o farbitwrad yn helpu pobl i ymlacio, teimlo’n gymdeithasol a llawn hiwmor. Os cymerir dôs mawr yna gall rhoi effaith meddw tebyg i alcohol i’r defnyddiwr. Mae’r effaith yn fwy os cymerir yr un adeg a thawelyddion eraill, gall fod yn beryglus iawn gan arwain at orddos neu farwolaeth. |
Effeithiau eraill |
Gall dôs uchel fod yn debyg i effeithiau alcohol gan achosi damweiniau di angen megis baglu ac yn y blaen. Gall methiant resbiradol ddigwydd o ganlyniad i orddos ac arwain at farwolaeth. Mae marwolaeth yn bosibilrwydd cryf gyda’r cyffur hwn oherwydd bod y dôs cyffredin (normal) ddim llawer llai na fuasech yn alw yn orddos ac yn llai fyth wrth eu cymryd gydag alcohol, tawelyddion neu heroin. Mae’r peryglon o chwistrellu'r cyffur i’r gwaed yn uchel iawn, mae rhannu nodwyddau yn codi'r risg o HIV ond y dull o chwistrellu sydd beryglaf er enghraifft os na yw’r tabledi wedi cael eu malu ddigon man, ni fyddant yn ymdoddi yn y gwaed ac felly yn rhwystro llifrediad y gwaed. Gall defnyddio'r cyffur'n drwm a chyson achosi broncitis, niwmonia a hypothermia. Os yw’r defnyddiwr yn ddibynnol neu'n gaeth i’r cyffur yna gall alldyniad (withdrawal) sydyn fod yn angheuol (fatal). |
Dibyniaeth a goddefgarwch |
Gall dibyniaeth corfforol a seicolegol ddatblygu yn enwedig os cymerir dôs uchel o hyd. |
Cyfreithlondeb |
Mae barbitiwrad fel pob tawelyddion eraill yn gyffur presgripsiwn yn unig o dan y ddeddf “Medicines Act.” Cewch eu meddu yn unig os cawsoch hwynt gan y doctor. Maent yn gyffuriau dosbarth B felly mae’n anghyfreithlon eu meddu, eu cynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio eich adeilad i wneud rhywbeth gyda’r cyffur.
|
