Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Canabis



Drugs A - Z

Canabis

Canabis

Cyffur

Canabis

Enwau cyffredin

Pot, Weed, Grass, Mary Jane, Roach, Reefer, Joint, THC, Dope, Gina, Shit, Blow, Spliff, Hash, Hashish, Marijuana, Skunk, Northern Lights, Bhang, Black, Blast, Sensi, Sensemilla, Zero, Wacky Backy, mwg drwg,

Disgrifiad

Planhigyn gyda dail gwyrdd. Gall gael ei werthu fel “grass” (hadau, dail a choesyn), fel “hashish/hash” (blocyn brown caled) neu olew (“canabis oil”)

Dull o ddefnyddio

Ysmygu neu ei amlyncu (bwyta neu wedi ei fragu)

Effeithiau

Mae effeithiau canabis yn dibynnu ar ddisgwyliad y defnyddiwr, hynny yw cyflwr meddyliol y person cyn cymryd y cyffur. Mae canabis yn gyffur sydd yn ymlacio ac yn gwneud i’r defnyddwyr deimlo’n fwy cynefinol. Hefyd gall gynyddu'r mwynhad o gerddoriaeth , darluniau a rhoi teimlad hapus a hwylus iawn i’r defnyddiwr. Os cymerir dôs uchel iawn o ganabis gall yr effeithiau fod yn debyg iawn i LSD. Gall y defnyddiwr ddisgwyl teimladau cyfoglyd, o rithweledigaethau, pryderus, pwl o banig neu baranoia. Os yw’r defnyddiwr yn teimlo ar binnau neu yn nerfus cyn defnyddio canabis yna gallant gael teimlad o baranoia a bod yn aflonydd ar ôl ei ddefnyddio.

Effeithiau eraill

Mae’n anodd cymryd gorddos o ganabis oherwydd buasai angen ysmygu neu fwyta swm golewl o’r cyffur. Gall y defnyddiwr golli ei gôf tymor byr (ychydig oriau, munudau neu eiliadau) a gall hyn wneud cynnal sgwrs, gweithio neu astudio yn anodd iawn, nid yw effeithiau ar y cof tymor hir yn eglur iawn eto. Mae bod yn sâl ar ôl defnyddio canabis yn y tymor hir yn rhannol fai ar y tybaco (os yw yn cael ei ysmygu). Gall y defnyddiwr ddioddef o gancr yr ysgyfaint neu froncitis oherwydd y “tar” yn yr ysgyfaint ond mae gwyddonwyr yn credu fod y cancer yn yr ysgyfaint yn gysylltiedig gyda'r canabis ei hun. Gall canabis handwyo meinwe’r ysgyfaint ac eto achosi bronchitis oherwydd mae canabis yn llosgi ar wres uchel iawn.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Nid os dibyniaeth corfforol gyda chanabis (er bod tystiolaeth yn casglu fod yna broblemau gyda diddyfnu / “withdraw”). Gall dibyniaeth seicolegol ar ganabis godi gydag amser wrth i oddefgarwch y corff gynyddu i’r cyffur a bydd angen mwy ohonno i gael yr un effaith. Mae symptomau diddyfnu (withdrawal symptoms) wedi cael ei nodi cyn heddiw.

Cyfreithlondeb

Mae resin canabis a chanabis “gras” yn gyffur o dan reolaeth ddosbarth C. Nid yw’r cyffur ar gael yn gyfreithlon at achosion meddygol ac mae’n drosedd meddiannu’r cyffur neu ei gyflenwi i eraill. Mae olew canabis yn dod o dan reolaeth dosbarth A, mae’r effeithiau'r run fath ond mae’r gosb yn llawer mwy. Mae’n anghyfreithlon meddiannu canabis, ei gynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio eich adeilad i wneud unrhywbeth gyda’r cyffur.

 


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru