Canabis



Canabis

Gwybodaeth ar Ganabis
Cyffur
Canabis
Enwau cyffredin
Pot, Weed, Grass, Mary Jane, Roach, Reefer, Joint, THC, Dope, Gina, Shit, Blow, Spliff, Hash, Hashish, Marijuana, Skunk, Northern Lights, Bhang, Black, Blast, Sensi, Sensemilla, Zero, Wacky Backy, mwg drwg,
Disgrifiad
Planhigyn gyda dail gwyrdd. Gall gael ei werthu fel “grass” (hadau, dail a choesyn), fel “hashish/hash” (blocyn brown caled) neu olew (“canabis oil”)
Dull o ddefnyddio
Ysmygu neu ei amlyncu (bwyta neu wedi ei fragu)
Effeithiau
Mae effeithiau canabis yn dibynnu ar ddisgwyliad y defnyddiwr, hynny yw cyflwr meddyliol y person cyn cymryd y cyffur. Mae canabis yn gyffur sydd yn ymlacio ac yn gwneud i’r defnyddwyr deimlo’n fwy cynefinol. Hefyd gall gynyddu'r mwynhad o gerddoriaeth , darluniau a rhoi teimlad hapus a hwylus iawn i’r defnyddiwr. Os cymerir dôs uchel iawn o ganabis gall yr effeithiau fod yn debyg iawn i LSD. Gall y defnyddiwr ddisgwyl teimladau cyfoglyd, o rithweledigaethau, pryderus, pwl o banig neu baranoia. Os yw’r defnyddiwr yn teimlo ar binnau neu yn nerfus cyn defnyddio canabis yna gallant gael teimlad o baranoia a bod yn aflonydd ar ôl ei ddefnyddio.
Effeithiau eraill
Mae’n anodd cymryd gorddos o ganabis oherwydd buasai angen ysmygu neu fwyta swm golewl o’r cyffur. Gall y defnyddiwr golli ei gôf tymor byr (ychydig oriau, munudau neu eiliadau) a gall hyn wneud cynnal sgwrs, gweithio neu astudio yn anodd iawn, nid yw effeithiau ar y cof tymor hir yn eglur iawn eto. Mae bod yn sâl ar ôl defnyddio canabis yn y tymor hir yn rhannol fai ar y tybaco (os yw yn cael ei ysmygu). Gall y defnyddiwr ddioddef o gancr yr ysgyfaint neu froncitis oherwydd y “tar” yn yr ysgyfaint ond mae gwyddonwyr yn credu fod y cancer yn yr ysgyfaint yn gysylltiedig gyda'r canabis ei hun. Gall canabis handwyo meinwe’r ysgyfaint ac eto achosi bronchitis oherwydd mae canabis yn llosgi ar wres uchel iawn.
Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)
Nid os dibyniaeth corfforol gyda chanabis (er bod tystiolaeth yn casglu fod yna broblemau gyda diddyfnu / “withdraw”). Gall dibyniaeth seicolegol ar ganabis godi gydag amser wrth i oddefgarwch y corff gynyddu i’r cyffur a bydd angen mwy ohonno i gael yr un effaith. Mae symptomau diddyfnu (withdrawal symptoms) wedi cael ei nodi cyn heddiw.
Cyfreithlondeb
Doabarth B. Hyd at 26/01/2009, roedd canabis yn gyffur dosbarth C, ond rwan mae canabis yn gyffur Dosbarth B. Mae olew canabis yn dod o dan reolaeth dosbarth A, mae’r effeithiau'r run fath ond mae’r gosb yn llawer mwy. Mae’n anghyfreithlon meddiannu canabis, ei gynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio eich adeilad i wneud unrhywbeth gyda’r cyffur.

 


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2009 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

Text and Color
Basic Colour / BC + Large Text