Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cocên



Drugs A - Z

Cocên

Cocaine/Crack
Crack

Cyffur

Cocên/Crack

Enwau cyffredin

Cocên, Coke, Cocâin, Charlie, C, Snow, Flake, Nose Candy, Hits, Dust, Gold, Coca paste, Crack, Rocks, Wash, Stone, Gravel, Crank, Cocen, Cocain,

Disgrifiad

Mae Cocên yn fwy cyffredin mewn ffurf powdr. Mae “Crack” wedi ei wneud o grisialau man sydd yn barod i gael ei ysmygu.

Dull o ddefnyddio

Amlyncu, chwistrellu, ffroeni, ysmygu.

Effeithiau

Mae Cocên yn gyffur adfywiol (stimulant) cryf ond eto nid yw’r effaith yn para'n hir iawn (30-40 munud). Mae’n achosi cynnydd yng nghuriad y galon, pwysedd gwaed ag anadliad. Mae’r effeithiau yn debyg iawn i effeithiau amffetaminiau sef hyderus, colli awydd bwyd, llawn egni a theimlo yn grêt yn eich hun. Mae “Crack” yn rhoi'r un effeithiau ond yn llawer iawn cryfach. Dim ond yn para am ychydig yn unig.

Effeithiau eraill

Ar ôl i effeithiau’r cyffur gilio, gall y defnyddiwr deimlo yn flinedig, cysglyd, pryderus, iselder ysbryd a pharanoia. Yn aml iawn defnyddir mwy o’r cyffur i leihau'r effeithiau hyn. Mae effeithiau'r “come down” yn waeth gyda dôs uchel a defnyddio’r cyffur yn aml. Gall ffroeni y cyffur niweidio’r pilenau (membranes) eiddil sydd yn leinin y trwyn yn ogystal ar septwm sydd yn gwahanu’r ffroenau. Gall ysmygu Cocên sef “Crack” neweidio yr ysgyfaint gan achosi poenau yn y frest ac yn arwain at froncitis. Gall chwistrellu Cocên achosi heintiau tebyg i HIV hepatitis os caiff y nodwyddau eu rhannu. Problem gyffredin gyda Cocên yw mynd i ddyled oherwydd bod y cyffur yn ddrud.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Gyda Cocên gall dibyniaeth seicolegol ddatblygu ond gall dibyniaeth corfforol a seicolegol cryf iawn ddatblygu drwy ysmygyu “Crack”

Cyfreithlondeb

Mae cocain yn gyffur dosbarth A, mae’n anghyfreithlon ei feddu (heb bresgripsiwn), cynhyrchu, cyflenwi a gadael eich adeilad gael ei ddefnyddio i wneud unrhyw beth gyda’r cyffur.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru