Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Crisialau Meth



Drugs A - Z

Crisialau Meth

Crystal Meth

Cyffur

Crisialau Meths / Methamphetamine

Enwau cyffredin

Tina, Crystal Meths, Crank, Tweak, Ice, Methamphetamine (Yaba)

Disgrifiad

Y mathau sylfaenol or cyffur yw sylwedd melyn sydd yn cael ei alw yn “Hydro” a sylwedd gwyn sydd yn cael ei alw yn “Glass”. (“Crystal Meths” yw amffetaminiau wedi cael ei gymysgu gyda moddion pesychu i greu methamffetamin).

Dull o ddefnyddio

Ffroeni, Chwistrellu, Ysmygu.

Effeithiau

Mae’r cyffur yn newid tymer y defnyddiwr mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’n dibynnu sut y mae yn cael ei gymryd. Ar unwaith ar ôl ei ysmygu neu ei chwistrellu bydd y defnyddiwr yn teimlo rhuthr aruthrol, tebyg i effeithiau sydd yn cael eu cynhyrchu wrth gymryd ‘crack cocaine’ ond yn para am fwy o amser. Gall hyd yn oed ychydig bach o fethamphetamine gynhyrchu teimlad o orfoledd, cyffro, anhunedd, gweithgaredd corfforol yn cynyddu, lleihau chwant bwyd a chynyddu resbiradaeth. Sgil effeithiau cyffredin yw cyfogi, pwl o banig, ymddygiad gorfodaethyrrol a chlensio'r gen.

Gall yr effeithiau bara rhwng 4 a 12 awr, dibynnu sut cymerwyd y cyffur. Mae’r effaith yn para rhwng 4 a 12 gwaith hirach nag effaith cocên. Mae ymchwiliadau wedi methu sefydlu lefel ‘ddiogel’ a ‘pheryglus’ o gymryd methamphetamine – hyd yn oed gyda’r un person yn cymryd yr un faint o ddos nifer o weithiau.

Effeithiau eraill

Gall achosi problemau seiciatrig gyda symptomau yn cyffelybu’n gysylltiol gyda ‘paranoid schizophrenia’ (gwallgofrwydd) megis paranoia a rhithweledigaethau (hallucinations). Gall fod o dan effaith methamphetamine arwain at hunanladdiad neu deimlo’n hunanddinistriol. Mae hefyd yn cael ei gysylltu gydag ymddygiad ymosodol a threisgar.

Gall defnyddwyr cyson a thrwm brofi eu dannedd yn pydru neu hyd yn oed eu dannedd yn disgyn allan, cyflwr sydd yn cael ei alw yn ‘meth mouth’. Mae dadl wyddonol yn pendroni os yw hyn yn effaith uniongyrchol o’r cyffur, ffordd y mae yn cael ei gymryd neu unrhyw fath arall o ymddygiad. Fodd bynnag, mae Deintyddion yn sylwi ar gynyddiad yn yr achosion o bydredd ac erydiad mewn dannedd cleifion sydd yn defnyddio methamphetamine.

Yn America mae pryder am y cyswllt rhwng y defnydd o’r cyffur gan ddynion hoyw. Y risg mwyaf o hyn yw codi'r siawns o ddal heintiau megis HIV a Hepatitis drwy gael rhyw di-amddiffyn o dan ddylanwad y cyffur. Mae ysmygu “ice” yn achosi cynyddiad yn nhymheredd y corff, curiad y galon, anadliad a phwysedd gwaed. Gall gor ddefnyddio achosi colli côf tymor byr, plyciau gwyllt, hwyliau ansad (mood swings) a niwed i’r system imiwnedd.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Mae defnydd rheolaidd o fethamphetamine yn gallu arwain at ddibyniaeth, gyda goddefgarwch y corff yn cynyddu i effeithiau’r cyffur yn ogystal â phroblemau corfforol a seicolegol o ganlyniad i alldyniad o’r cyffur. Gall symtomau alldynu (withdrawal) gynwys iselder ysbryd, pryder a chrefu am y cyffur. Mae rhai ymchwiliadau wedi cysylltu rhwystr mewn symudiad corfforol o ganlyniad i ddefnyddio methamphetamine, sydd efallai yn arwydd o ragduedd at y clefyd ‘Parkinsons’ mewn defnyddwyr methamphetamine.

Cyfreithlondeb

Gan nad oes defnydd meddygol ar gyfer methamphetamine yn y Deyrnas Unedig, nid oes rheswm cyfreithlon i’w feddiannu. Yn 2006 awgrymodd corff annibynnol cynghorol y Llywodraeth (Advisory Council on the Misuse of Drugs / ACMD) i fethamphetamine gael ei ail ddosbarthu o Ddosbarth B i Ddosbarth A.

Daeth yr ailddosbarthiad i rym ar 18fed o Ionwar 2007. Awgrymodd ACMD hefyd y dylai camau pellach gael ei gymryd er mwyn lleihau'r argaeledd o gemegau i gynhyrchu’r cyffur.

Mae amffetaminiau (speed) yn parhau i fod yn Nosbarth B, ond os yw unrhyw fath o amffetaminiau wedi cael ei baratoi ar gyfer chwistrellu yna mae’n dod yn gyffur Dosbarth A.

Hanes

Cafodd methamphetamine ei synthesu gyntaf yn 1887, ond ni chafodd ei adnabod tan y daeth fel dewis arall i ‘ephedrine’, cyffur cyffredin i drin ‘asthma’. Roedd amffetaminiau (gan gynnwys methamphetamine) yn cael eu cynhyrchu ar gyfer meddyginiaethau ac y cael eu defnyddio yn Japan, Prydain, Almaen a'r Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd er mwyn cadw’r milwyr yn effro, gwyliadwrus ag yn llawn ffocws. O ganlyniad i hyn, roedd methamphetamine yn llifo’r marchnadoedd lleol wrth i’r milwyr ddychwelyd yn ôl o’r rhyfel. Dioddefodd Japan epidemig o Methamphetamine yn llifo’r marchnadoedd ar ôl yr ail ryfel byd (1945 - 1957).

Yn 1942 roedd yr arweinir Natsïaidd Adolf Hitler yn cael chwistrelliad dyddiol o fethamphetamine gan ei feddyg personol, Dr Theodor Morell.

Roedd amffetaminiau yn cael eu defnyddio ar gyfer defnydd meddygol yn y deyrnas unedig tan ddiwedd 1960. Cafodd gwerthiant cynnyrch methamphetamine eu gwahardd o fferyllydd adwerthol yn 1968. Yn y Deyrnas mae’r cyffur ar gael mewn ffurf fferyllol er mwyn trin ‘Attention Deficit Hyperactivity Disorder (ADHD) a narcolepsi.

Cyffredinrwydd
Mae defnydd methamphetamine a’i ledaeniad yn peri gofid mewn llawer o wledydd, yn enwedig De Ddwyrain Asia (Gwlad Thai a Japan), USA, Awstralia a ‘Czech Republic’. Nid yw mor boblogaidd yn y Deyrnas Unedig ond mae pryder fod ei ddefnydd yn cynyddu. Nid oes llawer o dystiolaeth fod methamphetamine yn cael ei gynhyrchu na’i fewnforio i’r Deyrnas Unedig, ond mae adroddiadau fod y cyffur yn cael ei ddefnyddio mewn clybiau gan ddawnswyr yn ogystal â chymuned yr hoywon - mae archwiliad cenedlaethol sydd yn cael ei ariannu gan ‘Ymddiriedolaeth Terence Higgins’ yn dangos yn 2005 fod llai na 3% o ddynion hoyw yn y DU wedi defnyddio'r cyffur yn y flwyddyn ddiwethaf. (dros 6% yn Llundain).

Yn Rhagfyr 2006 cafodd tri dyn am y tro cyntaf eu dal a’u cyhuddo yn y Deyrnas Unedig am gynhyrchu methamphetamine.

Mae’r cyffur yn eithaf rhad i’w gynhyrchu er bod y modd o’i gynhyrchu yn cynnwys cemegau fflamadwy a’r rhyddhad o fwg gwenwynig. Mae’r cemegau sydd angen i gynhyrchu’r cyffur ar gael yn rhwydd (e.e. ephedrine, red phosphorous a iodine)

Cafodd y nifer uchaf o ffactrïoedd rhyngwladol a oedd yn cynhyrchu methamphetamine eu dal yn 2002 gyda’r mwyafrif yn yr UDA (USA). Mae nifer y defnydd a chynhyrchu wedi lleihau yn y UDA yn y blynyddoedd diwethaf.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2009 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

Text and Color
Basic Colour / BC + Large Text