Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Ecstasi



Drugs A - Z

Ecstasi

Ecstacy / MDMA

Cyffur

Ecstasi

Enwau cyffredin

E, XTC, Pills, MDMA, Disco Burgers, Dennis The Menace, Diamonds, Fantasy, Doves, New Yorkers, Adam, Rhubarb & Custard.

Disgrifiad

Mae ecstasi pur yn cael ei alw yn MDMA sydd mewn ffurf crisialau tebyg i bowdr. Tra bod y rhan fwyaf o ecstasy sydd yn cael eu gwerthu ar y stryd fel arfer mewn ffurf tabled/capsiwl (gwyn, brown, pinc neu felyn), mae crisialau MDMA yn dechrau ymddangos. Mae yn debyg iawn i edrychiad crisialau meth, gall fod yn gyfrifol am nifer o bobl yn cael gorddos a ffitiau, yn bennaf am ei fod mor bur (95%-100%).

Dull o ddefnyddio

Amlyncu

Effeithiau

Mae ecstasi yn cael ei alw yn gyffur “egni”, bydd y defnyddiwr yn colli swildod, yn codi ei gynnwrf ag yn teimlo yn llawn egni i’w helpu i ddawnsio am oriau maith. Mae ecstasi yn gwneud i’r defnyddiwr deimlo’n gariadus iawn at eraill o’i gwmpas. Gall y cyffur gynnwys cyffuriau eraill megis amffetamin neu LSD.

Effeithiau eraill

Disgwylir i gannwyll llygad y defnyddiwr ymledu yn ogystal â phrofi ceg a gwddf sych, cynnydd yng nghuriad y galon, tymheredd y corff a phwysedd gwaed, y gên yn tynhau, chwysu, colli awydd bwyd a pheidio troethi mor aml (urination). Yr effaith olaf yw’r peryglaf sef peidio â throethi mor aml oherwydd gall tymheredd y corff godi yn aruthrol wrth ddawnsio mewn clybiau nos felly mae peryg i’r corff ddihydradu. Mae nifer o farwolaethau wedi digwydd oherwydd trawiadau gwres. Nid yw yfed alcohol yn helpu felly mae angen yfed oeliaf peint o ddŵr pob awr wrth gymered y cyffur er mwyn hydradu'r corff. Gall yfed gormodaeth o ddŵr arwain at farwolaeth drwy achosi chwydd yn yr ymennydd gan y diffyg troethi. Yn ogystal i’r peryglon yma gall y defnyddiwr deimlo’n bryderus, cael pwl o banig, dioddef o insomia a hefyd rhithweledigaethau. Yn y tymor hir gall achosi niwed i’r system imiwnedd yn enwedig mewn merched, hefyd gall achosi niwed i’r iau. Nid oes digon o ffeithiau eto am effeithiau tymor hir i’r ymennydd.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Nid yw ecstasi yn gyffur caeth ond gall goddefgarwch y corff gynyddu gyda defnydd cyson felly bydd angen dôs uwch i gael yr un effeithiau.

Cyfreithlondeb

Mae ecstasi yn gyffur dosbarth A, felly mae’n anghyfreithlon ei feddu, cynhyrchu neu ei gyflenwi.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru