Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

GHB / GBH



Drugs A - Z

GHB / GBH

GBH, GHB

Cyffur

GHB / GBH

Enwau cyffredin

GBH, GBL, Liquid E, Liquid X, Fantasy, Midnight Blue, Serenity, Enliven

Disgrifiad

Mae GHB yn hylif di-liw, diarogl gyda blas hallt arno. Gall fod mewn ffurf powder a fydd wedyn yn cael ei doddi mewn dŵr ai lyncu.

Mae GBL yn cael ei ddefnyddio i wneud GHB ac yn aml yn cael ei werthu ar wahân. Os bydd GBL yn cael ei amlyncu, bydd y corff yn ei drawsnewid i GHB.

Dull o ddefnyddio

Amlyncu

Effeithiau

Gyda dôs bach o GHB gall gael effaith “aphrodisiac” ar y defnyddiwr a theimlo yn dda yn ei hun, wedi ymlacio a llonyddwch. Mae yn lleihau swildod ac hefyd yn cynyddu “libido”.

Effeithiau eraill

Gall cryfder GHB amrywio o botel i botel felly mae’n anodd gwybod faint i’w gymryd. Os cymerir gormod o ddôs gall y teimlad o ymlacio wneud lle i bethau gwaeth megis teimlo’n gyfoglyd, cyhyrau anystwyth, syrthni a chymysglyd. Gall dôs uchel iawn arwain at gonfylsiwn, coma a chwymp resbiradol. Mae GHB yn cael ei ddefnyddio yn aml i gyflawni troseddi megis treisio am y rheswm nad oes arogl na llawer o flas ynddo a gall ei roi yn hawdd mewn diod rhywun. Gall y cyffur fod yn beryglus iawn wrth ei gymysgu gydag alcohol a chyffuriau eraill.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Nid oes llawer o wybodaeth am effeithiau tymor hir GHB ond mae’n bosib mynd i ddibynnu yn gorfforol a seicolegol ar y cyffur wrth i oddefgarwch y corff gynyddu.

Cyfreithlondeb

Mae GHB yn gyffur dosbarth C - mae’n anghyfreithlon i’w feddu, cynhyrchu a chyflenwi rhywun gyda’r cyffur (gwerthu neu roi). Gall ei feddu arwain at 2 flynedd yn y carchar ai werthu arwain at 14 mlynedd yn y carchar.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru