Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Heroin



Drugs A - Z

Heroin

HeroinHeroin

Cyffur

Heroin

Enwau cyffredin

H, Junk, Horse, Smack, Sag, Brown, Gear, Diamorphine, China White, Dragon, Boy

Disgrifiad

Gall heroin fod yn bowdr gwyn (pûr) neu’n bowdr brown (amhûr)

Dull o ddefnyddio

Chwistrellu, ffroeni neu ysmygu

Effeithiau

Mae heroin yn rhoi teimlad o orfoledd, cynhesrwydd a theimlad o fod wedi ymlacio i’r defnyddiwr. Mae’n tawelu’r system nerfau sydd yn arwain at arafu anadliad a churiad y galon. Gyda dôs isel mae gan y defnyddiwr reolaeth lawn dros ei synhwyrau a symudiadau a gall deimlo fel petai mewn byd breuddwyd. Gyda dôs uwch bydd y defnyddiwr yn teimlo yn ben ysgafn a chysglud wrth i’r tawelydd yn y cyffur gymryd drosodd.

Effeithiau eraill

Mae ei ddefnyddio am y tro cyntaf fel arfer yn codi cyfog ar y defnyddiwr. Gall ei ddefnyddio’n aml arwain at ddibyniaeth, wedi rhwymo ag amharu ar gylchred y misglwyf mewn merched. Gall dôsiau uchel achosi syfrdandod, coma a hyd yn oed marwolaeth o ganlyniad i arafu'r system anadlu i lawr. Gall y corff ymateb yn wrthwynebus i’r cyffur oherwydd yr amhuredd y rhoir i mewn i’r gymysgfa gan y deliwr. Mae heroin yn lleihau awydd bwyd ac yn dihydradu'r corff gan arwain at broblemau iechyd oherwydd y diffyg maeth. Yn y tymor hir gall goddefgarwch y corff gynyddu i’r cyffur fel bydd angen heroin i deimlo yn “normal” ar y defnyddiwr. Mae’r goddefgarwch yn y corff yn gwneud dulliau o ysmygu a ffroeni y cyffur yn aneffeithiol ar ôl amser ac felly bydd y defnyddiwr yn arwain at chwistrellu'r cyffur i gael effaith. Wrth ffroeni y cyffur mae meinwe’r trwyn yn cael eu difetha a gall ei chwistrellu arwain at afiechydon megis HIV / AIDS. Gall alldyniad sydyn oddi ar y cyffur gynhyrchu symptomau tebyg i’r ffliw gyffredin gan gynnwys poenau, chwysu, oerni a’r cyhyrau yn crynu’n afreolus.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Mae dibyniaeth corfforol yn ogystal â dibyniaeth seicolegol yn codi o ganlyniad defnyddio’r cyffur yma.

Cyfreithlondeb

Mae heroin yn gyffur dosbarth A, felly mae’n anghyfreithlon ei feddiannu heb bresgripsiwn. Mae’n anghyfreithlon hefyd ei gyflenwi, gynhyrchu neu ddefnyddio eich adeilad i wneud y troseddau hyn.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru