Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Alcohol a Chyffuriau Mewn Gwledydd Tramor



Drugs A - Z


Alcohol a Chyffuriau Mewn Gwledydd Tramor
Mae cymryd cyffuriau tra mewn gwlad tramor yr un mor beryglus a chymryd cyffuriau gartref, ond gall fod yn fwy peryg oherwydd yr hinsawdd boethach gan godi’r risg o orboethi'r corff a dadhydradu. Mae gan wahanol wledydd wahanol gosbau i feddiannu a chyflenwi cyffuriau, mae rhai gwledydd gyda chosb lem megis oes mewn carchar neu hyd yn oed dienyddio.
Rydych yn mynd ar wyliau er mwyn cael amser da, ac yn wir mae rhywun fel arfer yn yfed mwy nai siâr o alcohol. Ceisiwch yfed digon o ddŵr er mwyn cadw eich hun yn hydradol. Dylech osgoi nofio ar ôl yfed alcohol, ac os ydych allan yn y dre, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union ble yr ydych, a sut i ddod yn ôl i’r man yr ydych yn aros.

Mae yfed a gyrru yn anghyfreithlon mewn unrhyw wlad, gyda lefelau'r hyn cewch yfed cyn gyrru yn amrywio ar hyd gwledydd Ewrop.

Mewn rhai talaith yn yr USA megis California, mae’n anghyfreithlon ysmygu sigarennau mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys tafarndai.

Mae smyglo cyffuriau i mewn ac allan o’r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon ac mae dedfryd lem os cewch eich dal. Mae ‘Tollau Tramor a Chartref HM’ yn defnyddio cŵn arogli mewn meysydd awyr a phorthladdoedd er mwyn canfod cyffuriau anghyfreithlon sydd yn dod i mewn i’r DU. Os ydych yn cael eich amau o smyglo cyffuriau dosbarth A, gallwch gael eich cwestiynu neu eich archwilio yn noeth. Gall Tollau Tramor a Chartref gynnig dirwy yn lle mynd a chi i gwrt os ydych wedi cael eich dal gyda swm bychan iawn o gyffuriau.

Mae cosb am ddefnyddio neu smyglo cyffuriau yn amrywio ar draws y byd, er enghraifft:

Yng ngwlad Twrci gallwch gael hyd at 25 mlynedd yn y carchar, hefyd gallwch gael dedfryd o’r fath neu ffein go eger yn Ciprys diolch i’w polisi dim goddefiant (zero tolerance).

Yn Tunisia rydych yn debyg o gael carchar os cewch eich dal yn defnyddio cyffuriau meddal megis cannabis.

Yng Ngwlad Thai, mae meddiannu hyd yn oed y swm lleiaf o gyffuriau yn gallu arwain hyd at 50 mlynedd yn y carchar. Mewn rhai achosion bydd y gosb eithaf yn cael ei rhoi sef dienyddio. Os cewch eich dal gyda 20 gram neu fwy o gyffuriau dosbarth A, mewn unrhyw borth yn Thai, mae’n cael ei edrych arno fel delio cyffuriau, ac os cewch yn euog byddwch yn cael y gosb eithaf. Yn y wlad yma mae amffetaminiau ac ecstasi yn gyffuriau dosbarth A.

Mae meddiannu unrhyw gyffur yn Sbaen yn gallu arwain at ddedfryd mewn carchar, ac yn ynysoedd y Balearic (Mallorca, Ibiza and Menorca) mae’n anghyfreithlon yfed alcohol yn y strydoedd.

Os oes genych record droseddol, gallwch eich gwrthod rhag mynd i mewn i rai gwledydd yn enwedig USA.

 

Source - www.bbc.co.uk


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

Text and Color
Basic Colour / BC + Large Text