Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Sut Mae Cyffuriau yn cael eu Categoreiddio



Drugs A - Z


Sut Mae Cyffuriau yn cael eu Categoreiddio
Yn y Deyrnas Unedig, mae cyffuriau wedi cael eu rhannu i dri prif gatgoriau, sef Dosbarth A, B ac C. Mae defnyddio a delio mewn cyffuriau dosbarth 'A' yn golygu cosbau sydd yn fwy llym na dosbarth B ac C. Mae cyffuriau wedi eu categoreiddio o dan ‘Misuse of Drugs Act 1971’, er bod rhai cyffuriau eraill yn cael eu rheoli gan y ‘Medicines Act 1968’.

Cyffuriau Dosbarth A

Mae Heroin, methadon, cocên, ecstasy, LSD, amffetaminiau (os yw wedi cael ei baratoi i’w chwistrellu) a madarch hud (wedi cael eu sychu) i gyd yn dod o dan Dosbarth A ‘Misuse of Drugs Act 1971’. Os cewch yn euog o feddiannu’r cyffuriau yma gallwch gael hyd ar saith mlynedd yn y carchar yn ogystal â ffein. Os cewch yn euog o gyflenwi neu gyda’r bwriad o gyflenwi'r cyffuriau yma, yna gall arwain at oes yn y carchar yn ogystal â ffein

Cyffuriau Dosbarth B
Mae amffetaminiau (speed) a barbitwradau yn gyffuriau dosbarth B. Y gosb uchafswm os cewch yn euog o feddiannu’r cyffuriau yma yw hyd at bum mlynedd yn y carchar yn ogystal â ffein. Os cewch yn euog o gyflenwi neu gyda’r bwriad o gyflenwi'r cyffuriau yma, yna gall y gosb arwain at yr uchafswm o 14 mlynedd yn y carchar yn ogystal â ffein.

Cyffuriau Dosbarth C
Mae canabis, steroid anabolic a benzodiazepines (tawelyddion megis Valum a Temasipam) yn gyffuriau dosbarth C yn ogystal ag amffetaminiau gwan. Gall meddiannu’r cyffuriau yma arwain at ddwy flynedd yn y carchar yn ogystal â ffein. Os cewch yn euog o gyflenwi neu gyda’r bwriad o gyflenwi'r cyffuriau yma, yna gall y gosb arwain at yr uchafswm o 14 mlynedd yn y carchar yn ogystal â ffein.

 

Source - www.bbc.co.uk


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

Text and Color
Basic Colour / BC + Large Text