Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Trais Cyffuriau



Cyffuriau

Trais Cyffuriau

Byddwch Yn Wiliadwrus Ac Yn Ofalys

Beth yw trais cyffuriau? (Rohypnol, GHB & Alcohol)

Cyfathrach rywiol orfodol tra mae'r dioddefwr yn feddyliol ac yn gorfforol analluog oherwydd eu bod wedi cymryd cyffuriau heb wybod.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth o gwbl - rhowch wybod i'r heddlu neu unrhyw asiantaeth arall.

Mae trais cyffuriau yn drosedd sy'n tyfu'n gyflymach nag unrhyw drosedd arall yn y DU ac mae'n digwydd i ferched a dynion.

Mae'r cyffuriau hyn yn aml yn cael eu 'cuddio' mewn diodydd - gall pobl yr ydych yn eu hadnabod neu hyd yn oed bobl sydd yn galw eu hunain yn 'ffrindiau' wneud hyn i chi. Gellir rhoi nifer o wahanol fathau o gyffuriau mewn diodydd o unrhyw fath.

Mae rhai pobl yn defnyddio cyffuriau er mwyn cymryd mantais o'r dioddefwr er mwyn eu treisio, Oherwydd y mathau o gyffuriau, nid yw'n bosib eu blasu na'u gweld yn enwedig os byddant wedi eu cuddio mewn diod feddwol, pan allant fod yn beryglus iawn neu hyd yn oed achosi marwolaeth.


Arwyddion y gallwch fod wedi cael eich cyffurio:

  • Teimlo’n llawer mwy meddw nag y byddwch fel arfer ar ôl yfed yr un faint o alcohol.
  • Methu meddwl yn glir ar ôl deffro, yn teimlo’n sâl ac yn methu cofio dim am gyfnod penodol o amser.
  • Teimlo fel pe bai rhywun wedi cael rhyw efo chi ond yn methu cofio un rhywbeth am y digwyddiad.
  • Ôl-fflachiadau ysbeidiol sydd yn gwneud i chi deilo’n ddryslyd ac yn ofnus.

Y prif sgil-effeithiau, ymysg pethau eraill, yw llewygu a meth cofio dim am rai digwyddiadau. Bydd pob arliw o’r cyffur yn diflannu ymhen 12-48 awr ar ôl ei gymryd felly mae amser yn bwysig. Mae’n hanfodol eich bod yn cael prawf tocsicoleg wrin o fewn yr amser hwn.

Beth os fydd hyn yn digwydd i chi?

  • Ewch i fan diogel
  • Ceisiwch gael help ar unwaith. Gofynnwch i ffrind y gallwch ymddiried ynddynt aros gyda chi.
  • Cysylltwch ar heddlu ar unwaith.
  • Peidiwch â mynd i’r gawod, peidiwch â chael bath nag ymolchi o gwbl a pheidiwch â chael gwared ar y dillad yr oeddech yn eu gwisgo adeg y digwyddiad. Os yn bosibl cadwch eich gafael ar unrhyw beth allai fod o dystiolaeth e.e. y gwydr yr oedd eich diod ynddo.
  • Os ydych angen help meddygol ar frys ewch i’ch ysbyty agosaf a gwnewch yn siŵr eu bod yn cysylltu â’r heddlu.
  • Gofynnwch am foddion atal cenhedlu brys gan Feddyg yr Heddlu, y Clinic GUM neu wasanaethau Ymgynghorol Brook o fewn 48 awr.
  • Ceisiwch gymorth arbenigol. Does dim rhaid i chi ddelio a hyn ar ben eich hun.

Byddwch yn wyliadwrus ac yn Ofalus.
Peidiwch â gadael i rywun ddifetha eich hwyl

Beth i wneud pan ydych allan
  • Peidiwch ag yfed dim byd na wnaethoch ei agor eich hun.
  • Peidiwch â rhannu neu gyfnewid diod gyda neb heb gadw llygad arno.
  • Peidiwch ag yfed o fowlen bwnsh neu gynhwysydd sydd yn cael ei basio rownd.
  • Peidiwch â gadael eich diod heb fod rhywun yn cadw llygad arno.
  • Peidiwch ag yfed dim sydd yn blasu neu’n edrych yn rhyfedd.
  • Os bydd rhywun yn cynnig prynu diod i chi, ewch efo nhw at y bar, edrychwch ar y diod yn cael ei dywallt a cariwch y diod eich hun.
  • Cofiwch fod alcohol yn dylanwadu ar eich ymddygiad ac ar eich adweithiau yn ogystal ag ar eich gallu i fod yn wyliadwrus.
Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
  • Gofynnwch i ffrind sydd ddim yn yfed ac y gallwch ymddiried ynddynt i gadw golwg ar eich diodydd.
  • Os oes un o’ch ffrindiau yn ymddangos yn feddw iawn, yn teimlo’n sâl ar ôl yfed diod, yn gysglyd ac yn anodd eu deffro, yn cael trafferth i anadlu neu yn ymddwyn mewn modd anarferol, GALWCH AM HELP a sicrhewch eu bod yn DDIOGEL.
  • Os ydych yn gweld rhywun neu’n clywed am rywun yn rhoi cyffuriau mewn diodydd, ceisiwch eu rhwystro, rhybuddiwch eraill, taflwch y diodydd a gofynnwch am help.
  • Rhybuddiwch eich ffrindiau am sefyllfaoedd peryglus a dywedwch wrthyn nhw beth i chwilio amdano.
  • Mae trais rhywiol yn drosedd. Nid yw trais rhywiol byth yn fai ar y dioddefwr.
  • Nid yw hi byth yn dderbyniol i wthio eich hunan ar rywun arall.

MEDDYLIWCH
Pwy sy'n cadw llygad ar eich diod chi?
Ffynonellau eraill o wybodaeth:

Taclo'r Taclau: 0800 555111
Heddlu Gogledd Cymru: 0845 6071001
Samaritans: 08457 909090


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru