Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cyffuriau a'r Gyfraith



Drugs A - Z


Cyffuriau a'r Gyfraith
‘Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971’ yw’r brif ddeddfwriaeth sydd yn ymdrin â chyffuriau. Mae’r gyfraith yn rhannu cyffuriau i dri chategori, sef Dosbarth A, B ac C. Mae cyffuriau sydd yn cael eu rheoli yn y ffordd yma yn cael eu hadnabod fel ‘sylweddau o dan reolaeth. Mae cyffuriau Dosbarth 'A' yn cael eu hystyried i fod y rhai mwyaf niweidiol, tra bod cyffuriau Dosbarth 'C' yn cael eu hystyried i fod ychydig llai niweidiol.

O dan yr Act Camddefnyddio Cyffuriau, mae’n drosedd i:
  • Feddiannu sylweddau o dan reolaeth yn anghyfreithlon
  • Feddiannu sylweddau o dan reolaeth gyda’r bwriad i’w gyflenwi
  • Gyflenwi sylweddau o dan reolaeth yn anghyfreithlon (hyd yn oed os nad oes pris wedi cael ei godi)
  • Adael yr eiddo yr ydych yn byw ynddo / rheoli i gael ei ddefnyddio i gymryd canabis

Mae cyflenwi cyffuriau Dosbarth ‘A’ yn denu cosbau llym, gan gynnwys oes yn y carchar.

Mae ‘Deddf Moddion 1968’ yn rheoli cyffuriau sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer meddyginiaeth, ac eto mae yna dri phrif gategori. Gall fferyllydd ddim ond gwerthu ‘cyffuriau presgripsiwn’ os ydynt wedi cael eu penodi gan y meddyg. Mae’r category ‘cyffredin’ yn galluogi moddion i gael prynu heb bresgripsiwn mewn unrhyw siop. Hefyd, gall fferyllydd werthu ‘Moddion Fferyllfa’ heb bresgripsiwn. Mae meddiannu moddion / cyffuriau ‘Presgripsiwn yn Unig’ heb bresgripsiwn dilys yn drosedd ddifrifol. Mae cyffuriau megis amyl nitrite, GHB a chetamin yn cael eu rheoli gan Ddeddf Moddion.

Mae ‘Deddf Traffig y Ffyrdd 1972’ yn gwneud o yn drosedd i ddreifio tra o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau presgripsiwn. Mae achosi marwolaeth gan ddreifio’n beryglus o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn denu cyfnod hir iawn yn y carchar yn ogystal â ffein anghyfyngedig.

Deddf Trwyddedu 1964 yw’r brif ddeddfwriaeth sydd yn ymwneud a gwerthu a chyflenwi alcohol. Mae’n gosod amser penodol y ceith alcohol ei werthu ac i bwy y ceith ei werthu. Mae’r ddeddf yn wneud o yn anghyfreithlon i werthu alcohol i unrhyw un sydd o dan 18 oed (mae rhai eithriadau).

Mae Deddf 1999 Rheoli Adlenwi Taniwr Sigaréts yn welliant i Ddeddf 1987 Gwarchod Defnyddwyr. Mae’r ddeddf yn wneud o yn anghyfreithlon i gyflenwi nwy adlenwi taniwr sigaréts i unrhyw un sydd o dan 18 oed. Gall adwerthwyr wynebu ffein neu gyfnod yn y carchar os ydynt yn torri'r gyfraith yma.

Mae Deddf (Cyflenwi) Sylweddau Meddwol 1985 yn gwneud o yn drosedd i unrhyw adwerthwr i werthu sylweddau i unrhyw un o dan 18 oed, neu wybod y byddant yn cael eu prynu i gael eu camddefnyddio. Nid yw’n anghyfreithlon meddiannu neu brynu sylweddau

Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1991 (Amddiffyn rhag Tybaco) yn ogystal â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933, yn gwneud o yn anghyfreithlon i werthu cynnyrch tybaco, gan gynnwys sigarennau, i bobl o dan 16 oed. Hefyd mae’n orfodol i ddangos arwyddion sydd yn rhybuddio.

Mae Deddf Goruchwyliaeth Tollau Tramor a Chartref 1979, mewn cysylltair a Deddf Camddefnyddio Cyffuriau, yn gwneud o yn anghyfreithlon i fewnforio ac allforio cyffuriau a dan reolaeth, heb awdurdodiad. Os cewch yn euog o’r drosedd hon bydd yn arwain at yr un cosb a Deddf Camddefnyddio Cyffuriau, er gall y ffein fod yn fwy, dibynnu ar werth y cyffuriau.

Mae Deddf Troseddau Delio Cyffuriau 1994 yn rhoi pwerau i’r heddlu i atafaelu (seize) asedau ac incwm unrhyw un sydd yn cael yn euog o ddelio mewn cyffuriau, hyd yn oed os yw’r incwm ddim yn berthnasol i’r cyffuriau, Hefyd mae’n anghyfreithlon i werthu neu gynhyrchu offer ar gyfer paratoi neu ddefnyddio cyffuriau o dan reolaeth.

Mae Deddf trosedd ag anrhefn 1998 yn gwneud o yn gyfreithlon i orfodi troseddwyr sydd wedi troseddu er mwyn cael arian i gael cyffuriau, i gael triniaeth. Hefyd gallant gael eu harbrofi i weld os ydynt wedi bod yn defnyddio cyffuriau.

 

Source - www.bbc.co.uk


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

Text and Color
Basic Colour / BC + Large Text