Cetamin |
Cyffur |
Cetamin |
Enwau cyffredin |
Green, K, special K, super K, vitamin K |
Disgrifiad |
Wrth ei brynu’n gyfreithlon mae Cetamin yn dod mewn hylif yn barod i’w gael ei chwistrellu. Mae’r fersiwn anghyfreithlon fel arfer yn dod mewn ffurf powdr gwyn sydd yn cael ei ffroeni neu yn cael ei droi yn dabled ar gyfer ei lyncu. |
Dull o ddefnyddio |
Chwistrellu, amlyncu neu ffroeni |
Effeithiau |
Gall yr effeithiau fod yn adfywiol a chreu teimladau o orfoledd a llawn egni. Mae rhai yn honni y gall y defnyddiwr brofi teimladau megis hofran yn eich unman, bod yn ddi-deimlad, colli pen ar amser a cholli rheolaeth ar y corff. |
Effeithiau eraill |
Gall defnyddwyr deimlo'n sâl neu hyd yn oed chwydu ar ôl cymryd “Cetamin” - mae hyn yn beryglus iawn oherwydd gyda dôs uchel mae’n bosib syrthio’n anymwybodol ac o ganlyniad gall y defnyddiwr dagu ar chwŷd ei hun. Mae “Cetamin” yn rhwystro gweithred y system nerfau heb amharu ar anadliad na rhediad y gwaed, felly mae’n gweithio fel anesthetig dibynnol, golygai hyn y gall y defnyddiwr anafu ei hun heb ddeall am nad fydd yn teimlo poen. Gall dôs ormodol arwain at basio allan (anymwybyddiaeth) am gyfnod hir gyda’r perygl o fethiant cardiofasgwlaidd. |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Mae’n bosib mynd yn gaeth ar “ketamin” (yn seicolegol dim yn gorfforol.) |
Cyfreithlondeb |
Mae “Cetamin” yn gyffur presgripsiwn yn unig. Gallwch eich cosbi am gyflenwi’r cyffur gan gynnwys ei roi i’ch ffrind. |

