Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Khat



Drugs A - Z

Khat

Khat

Cyffur

Khat

Enwau cyffredin

Khat, quat, qat, qaadka, chat, Catha edulis

Disgrifiad

Planhigyn deilen wyrdd yw’r cyffur yma sydd yn cael ei gnoi am oriau maith gan y defnyddiwr. Ers canrifoedd mae pobl o Gorn Affrica a phenrhynau Arabaidd wedi bod yn ei gnoi.

Dull o ddefnyddio

Amlyncu.

Effeithiau

Mae “khat” yn gyffur adfywiol gydag effeithiau sydd yn cael eu disgrifio i fod rhwng caffein ac amffetaminiau. Wrth ei gnoi gall defnyddwyr deimlo’n fwy effro, siaradus a llai o awydd bwyd, os caiff “khat” ei gnoi am oriau yna bydd y defnyddiwr yn teimlo ei fod wedi ymlacio.

Effeithiau eraill

Mewn rhai achosion mae nifer o ddefnyddwyr yn teimlo’n groendenau, blin a hyd yn oed yn dreisgar. Gall ei ddefnyddio’n rheolaidd arwain at insomia (methu cysgu), bod yn bryderus a hefyd mewn rhai achosion gall arwain at y clefyd llwgu (anorexia)

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Mae’n bosib mynd yn gaeth i ‘khat” (seicolegol yn unig). Ar ôl rhoi fynnu i’w gymryd gall y defnyddiwr deimlo’n isel iawn ei ysbryd.

Cyfreithlondeb

Mae “khat” yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ond mewn gwledydd megis America, Canada, Norwy a Sweden mae cosb llym i’w gael am feddiannu neu ei gyflenwi.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru