LSD |
Cyffur |
LSD |
Enwau cyffredin |
Acid,Trips, Blotters, Micridots, Tabs, Purple Ohm, California Sunrise, blue Star, Sugar, Big D |
Disgrifiad |
Mae LSD yn dod mewn amrywiaeth o ffurfiau megis, pilsen, tabled, capsiwl a phapurau bach (wedi eu gwneud allan o bapur blotio) tebyg i stamp gyda lluniau cartwnau arnynt. Bydd y defnyddiwr yn llyfu’r papurau bach i gael yr effaith. |
Dull o ddefnyddio |
Amlyncu. |
Effeithiau |
Bydd y defnyddiwr yn teimlo yn ddryslyd yn y dechrau ar ôl ei gymryd. Mae tripiau LSD yn amrywio o berson i berson ond bydd y rhan fwyaf yn gweld rhithweledigaethau neu bydd y cyffur yn amharu ar be maent yn ei weld e.e. pethau yn fwy lliwgar neu o faint wahanol. Mae'r rhan fwyaf o’r effeithiau yn seicolegol, i gael trip da neu wael mae’n dibynnu sut yr oedd y defnyddiwr yn teimlo yn emosiynol cyn cymryd y cyffur, hefyd mae’r awyrgylch yr ydych ynddo yn effeithio ar y trip. Gallwch gael trip “dda”, “gwael” neu gyfuniad o’r ddau. Gallant bara hyd at 8 i 12 awr. |
Effeithiau eraill |
Gall LSD sbarduno problemau iechyd meddwl gwaelodol a chynhyrchu symptomau o rithdybiau, paranoia a gwallgofrwydd. Bydd tripiau gwael yn aml yn dilyn gyda phryder, bod yn ofnus, paranoia ac iselder ysbryd. Gan fod y cyffur yn effeithio ar sut mae’r defnyddiwr yn gweld ei awyrgylch o’i gwmpas gall fod yn beryglus tu hwnt e.e. damweiniau wrth ddreifio, defnyddio peiriannau a pheidio adnabod peryglon mewn llefydd megis ffyrdd prysur. Nid oes peryglon tymor hir gyda LSD a does dim tystiolaeth ei fod yn effeithio ar yr ymennydd. |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Nid oes dibyniaeth corfforol gyda LSD ond gall y defnyddiwr ddatblygu dibyniaeth seicolegol (anaml iawn). Mae goddefgarwch gan y corff yn datblygu yn sydyn iawn, os defnyddir y cyffur am rai diwrnodau yna bydd dim effaith ar y defnyddiwr o gwbl oni bai ei fod yn cymryd seibiant o’r cyffur am rai diwrnodau. |
Cyfreithlondeb |
Mae LSD yn gyffur dosbarth A, felly mae’n anghyfreithlon ei feddiannu, cynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio eich adeilad i wneud unrhyw weithgaredd gyda’r cyffur. |

