Madarch Hud |
Cyffur |
Madarch Hud |
Enwau cyffredin |
Madarch Hud, Magic Mushrooms, Shrooms, Mushies, Liberty Caps, Fly-agaric, Madarch |
Disgrifiad |
Ffyngau amrwd (madarch), diod megis tê neu wedi eu coginio i wneud bwyd e.e. cacen. |
Dull o ddefnyddio |
Amlyncu |
Effeithiau |
Mae effeithiau madarch hud yn debyg iawn i effeithiau LSD sef rhithweledigaethau. Mae effeithiau y tripiau (da neu ddrwg) yn dibynnu ar amgylchedd y defnyddiwr o’i gwmpas ogystal â sut yr oedd yn teimlo yn emosiynol cyn cymryd y madarch hud. Nid yw’r effeithiau corfforol mor amlwg ar effeithiau seicolegol ond mae cynnydd ym mhwysedd gwaed, curiad y galon ac ymlediad cannwyll y llygaid. Bydd yr effeithiau yn cael eu teimlo o fewn hanner awr i awr ar ôl eu cymryd ag yn para wedyn hyd at naw awr ond mae’n dibynnu hefyd ar faint o fadarch hud y cymerwyd. Gall dôs isel (2 i 4 madarch hud) gynhyrchu teimladau o orfoledd neu “stoned”. Gyda dôs uwch (hyd at 20 madarch hud) bydd defnyddiwr yn gweld rhithweledigaethau (gweld pethau) neu yn profi afluniadau mewn synau a lliwiau. |
Effeithiau eraill |
Os profir trip gwael neu ddrwg gan y defnyddiwr yna gall deimlo’n bryderus, ofnus, cael pwl o banig a pharanoia. Peryglon mwyaf y cyffur yw cael damweiniau o dan ei ddylanwad neu drwy fwyta madarch gwenwynig drwy ddamwain (mae’n bwysig casglu'r madarch cywir, mae nifer o wahanol fathau o fadarch i’w gael). |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Mae goddefgarwch y corff yn datblygu’n sydyn iawn i fadarch hyd a bydd angen hoe o’r cyffur am rai dyddiau os cymerir y cyffur yn gyson er mwyn dod a’r lefelau goddefgarwch y corff yn nol i’r “normal”. Nid oes dibyniaeth corfforol na symtomau alldynu (withdraw) gyda’r cyffur ond gall rhai pobl fynd i ddibynnu yn seicolegol arnynt. |
Cyfreithlondeb |
Mae madarch hud wedi cael eu paratoi (wedi eu sychu) yn anghyfreithlon, ond tan yn ddiweddar roedd gwerthiant madarch hud ffres yn gyfreithlon oherwydd gwallau yn y gyfraith. Ers 2005 maent wedi cywiro'r gwall, felly rŵan mae gwerthiant a meddiant madarch hud ffres yn anghyfreithlon. Mae madarch hud yn cynnwys cemegau rhithweledigaethus sef “psilocybin” a “psilocin” sydd yn dod o dan yr un dosbarth cyffuriau a heroin a chocâin, felly mae madarch hyd yn gyffur dosbarth A. |

