Methadon |
Cyffur |
Methadon |
Enwau cyffredin |
Methadone, methadone mixture, meth, linctus, physeptone |
Disgrifiad |
Mae'r methadon sydd ar bresgripsiwn i bobl sydd yn trio rhoi gorau i heroin fel arfer mewn ffurf syryp sydd yn cael ei lyncu gan y defnyddiwr. Gall dulliau eraill o’r cyffur gael eu chwistrellu neu eu llyncu fel tabled. |
Dull o ddefnyddio |
Amlyncu, chwistrellu |
Effeithiau |
Mae “opiate” (heroin, methadon) yn gyffur “tawelydd" hynny yw mae’n yn arafu’r system nerfau, arafu'r corff i lawr ac yn rhwystro poen corfforol a seicolegol. Mae’r effaith fel arfer yn rhoi teimlad o fod wedi ymlacio a chynhesrwydd i'r defnyddiwr. Mae methadon yn atal i'r defnyddiwr deimlo’n bryderys. |
Effeithiau eraill |
Gall pobl sydd yn defnyddio “opiates” (heroin, methadon) am y tro cyntaf fod yn gyfoglyd ag hyd yn oed chwydu ond bydd y teimladau amhleserus yma yn cilio gydag amser. Gyda dôs reit uchel bydd y defnyddiwr yn gysglyd iawn. Gall cymryd gormod o’r cyffur achosi coma neu rwystro anadliad yn gyfan gwbl. Drwy ddefnyddio “opiates” yn gyson gall atal cylchred y misglwyf i ferched ac mae siawns da o fynd yn feichiog os nad oes dulliau atal cenhedlu yn cael ei ddefnyddio. Bydd torri i lawr ar y cyffur yn dod a chylchred y misglwyf yn ôl i’r arfer y rhan amlaf. Nid oed tystiolaeth o namau geni gyda cymryd “opiates” ond mae adroddiadau y gall godi’r siawns o erthyliad, marw-enedigaeth (still birth) a rhoi genedigaeth i fabanod bychan. Nid yw’n syniad da alldynnu o’r cyffur os yw’r defnyddiwr yn feichiog oherwydd gall achosi genedigaeth gynamserol neu hyd yn oed erthyliad. Mae eich trwydded yrru yn annilys os yr ydych ar methadon oni bai eich bod wedi trafod y mater gyda DVLA. |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Mae “opiates” yn gyffur caeth dros ben, gweler heroin, Nid yw effeithiau methadon yn y run raddfa ac effeithiau “buzz” heroin ond mae’n galluogi pobl i daclo dibyniaeth ar heroin drwy amnewid i methadon i gael bywyd mwy sefydlog hefyd bydd yn rhwystro symptomau alldynnu megis symptomau’r ffliw ac yn y blaen. Bydd y defnyddiwr yn cael llai o ddos pob tro nes y bydd wedi cilio oddi ar y cyffur yn gyfan gwbl. |
Cyfreithlondeb |
Mae morphine, opium, methadone, pethadine a diconal yn gyffuriau dosbarth A. Mae codeine a dihyrocodeine (DF118) yn gyffuriau dosbarth B. Mae temgesic a distalgesic yn gyffuriau dosbarth C. |

