Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Popwyr



Drugs A - Z

Popwyr

Poppers / Alkyl nitrates

Cyffur

Popwyr / Alkyl nitrates neu amyl nitrite

Enwau cyffredin

Rush, Locker Room, Ram, Thrust, Hardware, TNT, Nitrites, Kix, Rock Hard, Stud, Stag, Liquid Gold

Disgrifiad

Hylif clir neu felyn/aur mewn poteli bach.

Dull o ddefnyddio

Mewnanadliad

Effeithiau

Bydd yr effeithiau yn cael eu teimlo o fewn eiliadau ac yn para o gwmpas 4 munud. Bydd y defnyddiwr yn teimlo rhuthr yn ei ben wrth i fwy o waed lifo i’r ymennydd, hefyd gall deimlo’n ben ysgafn gyda'i wyneb yn poethi a bydd yn ymlacio a chwerthin ar ôl hyn i gyd. Mae rhai pobl yn defnyddio alkyl nitrates (popwyr / poppers) ar gyfer cyfathrach rhywiol yr anws am ei fod yn ymlacio cyhyrau’r anws. Hefyd caiff ei ddefnyddio i ymestyn orgasm ac i rwystro ebychiad cynamserol (premature ejaculation). Mae rhai adroddiadau yn dweud fod rhai dynion mewn trafferth cael codiad ar ôl cymryd y cyffur.

Effeithiau eraill

Mae newid yn llif y gwaed yn achosi problemau difrifol i rai pobl, gallant ddisgyn yn anymwybodol ag achosi niwed i’w hunain. Mae’r cyffur yn hynod o beryglus os yw rhywun yn ddioddef gyda phwysedd gwaed uchel eisoes neu broblemau gyda’r galon. Mae “alkyl nitrates” (popwyr) yn amharu ar system imiwnedd a gall mathau prin o gancr ddatblygu mewn pobl sydd eisoes yn dioddef o AIDS. Gall effeithiau corfforol alkyl nitrates gynwys teimlo’n gyfoglyd, gwan, oer, chwysu, codi gwasgedd yn y llygaid ag achosi clwy’r croen ar y gwefusau, trwyn ar bochau. Gall y lleihad yng nghynnwys ocsigen yn y gwaed arwain at i wefusau ar ceg droi yn las/ddu a hyd yn oed arwain at farwolaeth.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Nid oes dibyniaeth corfforol gyda Popwyr. Mae goddefgarwch gan y corff yn datblygu yn sydyn iawn, os defnyddir y cyffur am rai wythnosau yna bydd dim effaith ar y defnyddiwr o gwbl oni bai ei fod yn cymryd seibiant o’r cyffur am rai diwrnodau.

Cyfreithlondeb

Gall popwyr eu prynu’n gyfreithlon i rywun dros 18.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru