Tyddyddion |
Cyffur |
Toddyddion / anadlu sylweddau |
Enwau cyffredin |
Aerosols, Correction fluids, Glues, Butane Gas, Dry Cleaning Fluids, Paint Thinners and Strippers, Petrol, Nail Varnish Removers |
Disgrifiad |
Unrhyw doddydd sydd yn anweddu neu gyda nwy ynddo. |
Dull o ddefnyddio |
Anadlu’r toddyddion / slweddau yn uniongyrchol neu drwy ddefnyddio bag plastig. |
Effeithiau |
Mae’r mygdarth (fumes) sydd yn cael ei anadlu yn mynd i mewn i lif y gwaed ac yna i’r ymennydd gan achosi teimlad o orfoledd, pen ysgafn, cysglyd a hyd yn oed gweld rhithweledigaethau. Mae’r effeithiau i’w teimlo yn syth ar ôl anadlu’r sylweddau ac yn debyg iawn i effeithiau alcohol gan leihau swildod ac yn para hyd at hanner awr i awr. |
Effeithiau eraill |
Mae llawer o ddamweiniau yn digwydd gyda thoddyddion e.e. baglu, syrthio ffwrdd o adeiladau, cerdded o flaen ceir ac yn y blaen. Gall chwistrellu “aerosol” yn syth i’r geg achosi i’r llwybr anadlu rewi a chwyddo gan arwain i ’r defnyddiwr fygu i farwolaeth. Mae rhai yn marw drwy fygu gyda’r bag plastig dros eu pennau neu hyd yn oed dagu ar chŵyd eu hunan ar ôl disgyn yn anymwybodol. Gall rhai toddyddion wanhau’r galon ac yna achosi iddo roi gorau iddi. Mae nifer yn llosgi drwy anadlu hylif tanwydd (lighter fluid) oherwydd y hylif/nwy wedi digwydd cynnau fflam yn ddamweiniol. Gall defnyddio toddyddion am dymor hir achosi niwed i’r ymennydd yn enwedig y rhan sydd yn rheoli symudiadau. Hefyd gall ei ddefnyddio yn y tymor hir achosi “sniffer’s rash” parhaol, llid yr amrant (conjunctivitis), niwed i’r iau, arenau ac mewn rhai achosion prin achosi i’r ymennydd farw. |
| Dibyniaeth a goddefgarwch |
Gall goddefgarwch gan y corff ddatblygu gydag amser. Nid oes dibyniaeth corfforol o gwbl er bod adroddiadau o symptomau diddyfnu, ond gall dibyniaeth seicolegol ddatblygu yn enwedig os yw’r defnyddwyr yn dioddef gyda phroblemau yn gymdeithas neu gyda'u deulu. |
Cyfreithlondeb |
Nid yw anadlu toddyddion / sylweddauna eu meddu yn anghyfreithlon ond mae’n anghyfreithlon i adwerthwyr eu gwerthu i berson dan 18 oed os yw yn amau fod y person yn mynd i’w camddefnyddio. Mae gyrru car neu reidio beic modur yn anghyfreithlon tra bod o dan ddylanwad effeithiau anadlu toddyddion. |
|

