Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Tybaco



Drugs A - Z

Tybaco

Gwahardd Ysmygu
01/10/2007 Oedran prynu tybaco yn codi i 18

Cyffur

Tybaco

Enwau cyffredin

Fags, rollies, smokes, ciggies, baco.

Disgrifiad

Dail planhigion wedi eu sychu sydd yn cael eu tyfu yn wahanol rannau o’r byd.

Dull o ddefnyddio

Ysmygu, ffroeni.

Effeithiau

Mae ysmygu tybaco yn golygu anadlu tar, nicotine, carbon monocsid a nwyon eraill. Mae nicotin yn gyffur adfywiol, mae’n cynyddu curiad y galon a phwysedd gwaed. Bydd ysmygwyr cyson yn aml yn dweud fod ysmygu yn eu helpu i ganolbwyntio, ymlacio, brwydro diflastod a lleihau pryder. Mae rhai yn dweud ei fod yn lleihau chwant bwyd. Mae’r effeithiau yn dechrau yn sydyn iawn ac yn para o ddeutu 30 munud gydag un sigarét.

Effeithiau eraill

Gall y corff fynd yn gaeth i ysmygu gan wneud i’r defnyddiwr deimlo’n flin, aflonydd, croendenau ac isel ei ysbryd os nad yw wedi cael sigarét ers beth amser. Mae tagu, problemau anadlu ac anadl ddrwg yn gyffredin iawn ymysg ysmygwyr. Bydd ysmygwyr hir dymor yn fwy tebygol i ddatblygu problemau iechyd, megis cancr yn ysgyfaint a mathau eraill o gancr, clefyd y galon, problemau gyda llif y gwaed, bronchitis a hyd yn oed wlserau. Mae merched sydd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn dueddol i roi genedigaeth i fabanod llai nâg arfer, hefyd gall ysmygu wrth gymryd tabledi atal genhedlu achosi problemau gyda llif y gwaed ar galon.

Ysmygu goddefol ( Passive smoking) - gall ysmygu mwg rhywun arall fod yn niweidiol i’ch iechyd, mae plant a babanod yn dueddol o ddatblygu asma neu broblemau anadlu eraill drwy ysmygu goddefol.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Mae goddefgarwch gan y corff yn datblygu yn fuan iawn i effeithiau nicotin, felly bydd angen ysmygu mwy i gael yr un effaith. Bydd ysmygwyr sydd yn trio rhoi gorau i’r arferiad yn aflonydd, blin, diflas a phryderus am gyfnod.

Cyfreithlondeb

Nid yw yn anghyfreithlon i brynu, meddu neu ddefnyddio cynnyrch tybaco. Mae gwerthu tybaco i blant dan 18 oed yn anghyfreithlon.

Oedran prynu tybaco yn codi i 18 - 01/10/2007

Edrychwch ar y lluniau isod i weld be all ysmygu wneud i'ch ysgyfaint chi.

Healthy Lung Lung cancer
Ysgyfaint Iach Ysgyfaint Gyda Canser

Ref: Action on Smoking and Health www.ash.org.uk


Dim ond chi all benderfynu rhoi'r gorau i ysmygu, o'r cam hwnnw gallwch gael cymorth a chefnogaeth i ddal ati i beidio ag ysmygu.

Llinell Gymorth Ysmygu'r GIG 0800 169 0 169

 

 


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru