Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Tawelyddion



Drugs A - Z

Tawelyddion

Tranquillisers

Cyffur

Tawelyddion / tranquilliser

Enwau cyffredin

Temazepam (tems, eggs, jellies, norries), Benzodizepines, Valium, Librium, Ativan, Diazepam

Disgrifiad

Gwahanol fathau o dabledi, capsiwlau hefyd capsiwlau wedi eu llenwi gyda gel sydd yn cael eu galw yn temasipam.

Dull o ddefnyddio

Amlyncu neu chwistrellu

Effeithiau

Mae Benzodiazepines (tawelyddion) yn gyffur iselydd sydd yn effeithio ar y system nerfau mewn ffordd tebyg iawn i alcohol. Maent yn rhyddhau tensiwn ac yn lleihau pryder, bydd y defnyddiwr wedi ymlacio ar ôl ei gymryd. Gall dôs uwch leihau swildod a chodi hyder. Maent yn gweithio’n gyflym ac yn para am rai oriau.

Effeithiau eraill

Gall effeithiau'r cyffur yma wneud asesu risg yn anodd iawn, arweiniai hyn at ddamweiniau megis dreifio, croesi’r ffordd ac yn y blaen. Mae’n hawdd iawn cymryd gorddôs o’r cyffur yma yn enwedig os y cymysgir gydag alcohol neu herion. Roedd llawer a oedd yn ddibynnol ar y cyffur yn chwistrellu temasipam (math o dawelydd) yn syth i’r gwaed, arweiniodd hyn i’r gwneuthurwyr newid y cyffur o hylif i gapsiwlau gel ond nid oedd hyn yn rhwystro'r defnyddiwr penderfynol. Gall y gel hydawdd yn y gwaed galedu’n ôl gan achosi rhwystr yn llif y gwaed (thrombosis) gall hyn arwain at fadredd (gangrene). Mae symptomau diddyfnu yn codi aml wrth i oddefgarwch y corff gynyddu. Gall symptomau diddyfnu bara am wythnosau ac yn gwahaniaethu o berson i berson, bydd y symptomau cyffredin yn cynnwys pryder, insomnia, pwlïau o banig, teimlo’n gyfoglyd a hyd yn oed gweld rhithweledigaethau.

Dibyniaeth a goddefgarwch
(tolerance)

Gall goddefgarwch y corff ddatblygu yn sydyn iawn hefyd gall dibyniaeth seicolegol a cgorfforol ddatblygu o ganlyniad i gymryd y cyffur yn gyson.

Cyfreithlondeb

Mae benzodiazepines / tawelydd yn gyffur presgripsiwn yn unig, mae’n cael ei reoli o dan gyffuriau dosbarth C gan y “Misuse of Drugs Act”. Mae cyfraith wahanol ar gyfer temasipam.


NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru