Ymyriad Byr Mae ymchwil wedi dangos fod problemau yfed (dibyniaeth ar alcohol) yn y camau cyntaf yn ymateb yn dda i driniaeth cyfnod byr. O gefndir y ffeithiau hyn mae CAIS wedi datblygu strategaeth Ymyriad Byr (Brief Intervention) sydd wedi cael ei dargedu at bobl sydd yn cael eu hamau o fod gyda phroblem yfed.
Mae’r cleientiaid yn cael ei roi drwy sesiwn therapi sydd yn seiliedig ar gyfrifiadur ac yn nodi'r lefel o ddibyniaeth y maent ar alcohol. Hefyd caent eu holi beth a fuasent hoffi ei gyflawni yn y dyfodol. Ar y diwedd, bydd y sesiwn yn cael ei brintio ar bapur i alluogi'r cleientiaid i gyfeirio yn ôl at o yn y dyfodol. Mae’r ymarferiad wedi cael ei hadnabod fel llwyddiant mawr mewn problemau yfed yn y camau cyntaf ac yn helpu i annog y cleientiaid i newid eu hymddygiad.
|
