Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Newyddion | Chwilio'r Wefan | Cwestiynau?
Chwilio Cyflym | Chwilio yn ôl Tref | Rhestr o'r Holl Wasanaethau
Digwyddiadau i Ddod | Rhestr Llawn o'r Cyfarfodydd
TGCS Conwy | TGCS Gwynedd | TGCS Sir Ddinbych | TGCS Sir Fflint | TGCS Wrecsam | TGCS Ynys Môn |
Llyfrnodi'r Wefan Yma | Gwefan Diogelwch Cymunedol | Heddlu Gogledd Cymru |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau (RhYC)

The Drug Interventions Program Directory

NEWYDD MAWR

DAN 24/7

FE GYCHWYNODD GWASANAETH RHAGLEN YMYRIADAU CYFFURIAUDYDD LLUN 3ydd EBRILL 2006

CYFEIRIADAU AT:

FFON: 01492 533269
FAX: 01492 535069

EDRYCHWN YMLAEN I GYDWEITHIO GYDA CHI OLL

Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau (RhYC)

Mae DIP yn agor nifer o ganolfannau amlasiantaethol ardraws Gogledd Cymru ble gall defnyddwyr cyffuriau fynd i dderbyn y gwasanaeth sydd angen arnynt. Nod y canolfannau yma yw lleihau troseddau yn y cymunedau ag i helpu defnyddwyr cyffuriau.

Bydd pobl yn cael eu darbwyllo i dderbyn y driniaeth y maent angen, beth bynnag fydd y driniaeth honno. I rai byddant yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn a derbyn cymorth wrth sefydlogi eu bywyd er mwyn symud ymlaen. I eraill byddant yn cael cymorth i ffeindio gwaith, derbyn addysg ychwanegol neu ddysgu sut i fyw yn annibynnol. Bydd gan y canolfannau yma staff ar gael i ddarparu'r gwasanaeth sydd angen.

Ymyriad cyfiawnder troseddol yw DIP ac maent yn anelu i leihau troseddau yn ymwneud a chyffuriau. Mae’r model wedi bod yn rhedeg yn Lloegr am flwyddyn ac mae’r canlyniad yn dangos llwyddiant da. Yng Ngogledd Cymru rydym yn ei deilwra i ofynion y cleientiaid i ac ein cymunedau, dylai hyn sicrhau ein bod yn byw mewn cymunedau diogel, a bod defnyddwyr cyffuriau yn gallu bod yn rhan integredig o’r gymuned y maent yn byw.

Mae DIP hefyd yno i’r rhai sydd wedi gadael triniaeth i sicrhau gofal cysondeb. Mae hyn yn enwedig i bobl sydd yn gadael triniaeth yn erbyn cyngor meddygol.

Llinell Gymorth


Bydd DIP yn darparu llinell gymorth llawn amser a fydd yn gwasanaethu Cymru gyfan. Bydd y gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg ar Saesneg ac yn darparu gwybodaeth ar sut a ble i gael y cymorth yn ogystal â chymorth cymhelliant. Bydd y cleientiaid posibl yn gallu trefnu apwyntiad gan ddefnyddio'r llinell gymorth.

 

 

NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru