Diagnosis Deuol Mae nifer o gleientiaid sydd yn cyflwyno eu hunain i wasanaethau alcohol a chyffuriau yng Ngogledd Cymru yn dioddef cyfuniad o broblem camddefnyddio sylweddau a phroblem iechyd meddwl. O ganlyniad mae hyn yn aml yn cymhlethu'r driniaeth. Mae'r Gwasanaeth Diagnosis Deuol yn anelu i gydlynu gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau o fewn Gogledd Orllewinol Cymru. Y mae dau arbenigwr cynig gwasanaeth ar draws Gwynedd ac Ynys Môn - un wedi ei leoli yn adran Cymuned Iechyd Meddwl yn Llangefni ar ail wedi ei leoli ym Mangor o dan Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (North West Wales NHS Trust). Mae’r gwasanaeth yn gweithio wrth ochr gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i gyfuno’r gofal y mae’r bobl sydd â phroblemau cymhleth fel hyn yn ei gael. Er enghraifft cleient o’r Gymuned Iechyd Meddwl yn Llangefni yn mynd drwy broses dadwenwyno mewn man arall cyn dychwelyd yn ôl i gyfleusterau’r adran iechyd meddwl. |
