Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru

English
Chwilio'r Wefan | Cwestiynau? | Diogelwch Cymunedol | Llyfrnodi'r Wefan Yma | Newyddion
Conwy | Gwynedd | Sir Ddinbych | Sir Fflint | Wrecsam | Ynys Môn |
Alcohol a Chyffuriau | Bydwraig | Canolfan Dewi Sant | Cael Help | Diagnosis Deuol | DIP | Lleihau Niwed | Ymyriad Byr | YPSMS
Darllenwr Acrobat |
Conwy | Gwynedd | Sir Ddinbych | Sir Fflint | Wrecsam | Ynys Môn |
BBC | ITN | Daily Dose | Times On Line |
Effeithau 'Crack' | Trais Cyffuriau | Prisiau Cyffuriau | Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Gwahardd Ysmygu Yng Nghymru - Ebrill Yr Ail 2007



Smoke
Gwahardd Ysmygu
Bydd y gyfraith newydd sy’n gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru yn dod i rym ar 2 Ebrill 2007. Nod y gyfraith ar smygu yw diogelu gweithwyr a’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.

Mae’r gyfraith yn creu tair trosedd benodol:

  • Methu ag arddangos arwyddion dim smygu mewn safleoedd sy’n dod o dan y gyfraith.
  • Ysmygu mewn man di-fwg.
  • Methu ag atal smygu mewn man di-fwg.

Mae deddfwriaeth debyg eisoes wedi’i rhoi ar waith yn yr Alban a bwriedir iddi ddod i rym yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2007.

Prin iawn yw’r eithriadau a gynigir o dan y gwaharddiad ar smygu. Bydd y gyfraith newydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus, gan gynnwys, tai bwyta, bariau, siopau, sinemâu, canolfannau siopa, canolfannau hamdden, gweithleoedd caeedig eraill a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Pa gosbau y bwriedir eu rhoi i’r rheini sy’n torri’r gyfraith?

  • Gall unigolion gael cosb benodedig o £50 am smygu mewn safle dim smygu. Ar gyfer collfarn ddiannod (summary conviction), gallai’r ddirwy uchaf fod yn £200.
  • Gallai rheolwr safle dim smygu neu’r person sy’n gyfrifol am y safle gael cosb benodedig o £200 am fethu ag arddangos arwyddion rhybudd ar y safle. Ar gyfer collfarn ddiannod, gallai’r ddirwy fod gymaint â £1,000.
  • Gallai rheolwr safle dim smygu neu’r person sy’n gyfrifol amdano gael dirwy o hyd at £2,500 am ganiatáu i eraill smygu ar y safle.
  • Gallai’r sawl sy’n rhwystro swyddog wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod lleol i orfodi’r ddeddf gael dirwy o hyd at £1,000.

Beth mae angen i chi ei wybod am y ddeddfwriaeth ddi-fwg [PDF,591KB]

Rheoliadau mangreoedd di-fwg etc (Cymru) 2007 [PDF, 60KB]

www.smokingbanwales.co.uk

 

NWSMF Amdanom Ni | Hawlfraint | © 2008 Fforwm Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru